Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Siambr Hywel - Tŷ Hywel

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 24 Medi 2025

Amser y cyfarfod: 13.30
 


299 (v4) 

------

<AI1>

Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr Hywel, Tŷ Hywel ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.
Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

2       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.
Gweld y Cwestiynau

</AI3>

<AI4>

3       Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

(10 munud)

Gweld y Cwestiynau

</AI4>

<AI5>

4       Cwestiynau Amserol

(0 munud)

Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol

</AI5>

<AI6>

5       Datganiadau 90 eiliad

(5 munud)

</AI6>

<AI7>

6       Dadl ar ddeiseb: P-06-1494 Llywodraeth Cymru i ddiogelu cyllid mewn addysg rhag toriadau Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol

(30 munud)

NDM8982Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)  

Cynnig bod y Senedd: 

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1494 Llywodraeth Cymru i ddiogelu cyllid mewn addysg rhag toriadau Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol’ a gasglodd 11,040 o lofnodion. 

</AI7>

<AI8>

7       Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Deallusrwydd Artiffisial ac Economi Cymru: A all androidau Cymru freuddwydio am ddefaid trydan?

(30 munud)

NDM8983 Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru)  

Cynnig bod y Senedd yn nodi: 

Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, ‘Deallusrwydd Artiffisial ac Economi Cymru: A all androidau Cymru freuddwydio am ddefaid trydan?’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Mai 2025, ac y gosodwyd ymateb iddo gan Lywodraeth Cymru ar 16 Medi 2025. 

</AI8>

<AI9>

8       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Craffu blynyddol: Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru 2024

(30 munud)

NDM8986 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)  

Cynnig bod y Senedd: 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Craffu blynyddol: Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru 2024, a osodwyd ar 24 Ebrill 2025. 

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Medi 2025. Ymatebodd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ar 8 Mai 2025. 

</AI9>

<AI10>

9       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - y GIG

(60 munud)

NDM8984 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)  

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn ailddatgan y dylai GIG Cymru barhau i fod am ddim yn y man darparu a chael ei ariannu ag arian cyhoeddus, ac na ddylai gael ei ddisodli gan system sy'n seiliedig ar yswiriant. 

2. Yn gresynu, ers etholiad y Senedd 2021 a Chytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru â Phlaid Cymru: 

a) bod dros 38,000 o bobl Cymru wedi marw tra'n aros am driniaeth y GIG; a 

b)  bod cyfanswm llwybrau cleifion wedi cynyddu tua traean. 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i atal rhagor o farwolaethau diangen drwy: 

a) datgan argyfwng iechyd i gyfeirio adnoddau a chyfarpar Llywodraeth Cymru tuag at dorri rhestrau aros y GIG; 

b) gwarantu uchafswm o flwyddyn i aros am driniaethau; 

c) cyflwyno gwarant o saith diwrnod o aros am apwyntiad meddyg teulu; 

d) cynnal cynllun cynhwysfawr o recriwtio a chadw ar gyfer GIG Cymru; 

e) adeiladu rhagor o ganolfannau llawfeddygol ac ehangu canolfannau diagnostig cyflym; 

f) adfer dewis y claf o ran lle y gall gael mynediad at ofal iechyd; a 

g) lansio cynllun gweithredu ar gyfer canser. 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: 

Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg) 

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le: 

Yn croesawu'r cyllid ychwanegol o £120 miliwn i ddileu'r holl amseroedd aros o ddwy flynedd a lleihau maint cyffredinol y rhestr aros erbyn diwedd mis Mawrth 2026. 

Yn croesawu camau i atal mwy o farwolaethau canser drwy lansio rhaglen genedlaethol wedi’i thargedu ar gyfer sgrinio canser yr ysgyfaint yng Nghymru a chynyddu mynediad at y rhaglen sgrinio canser y coluddyn. 

Yn nodi: 

a) bod amseroedd aros hir o fwy na dwy flynedd am driniaeth bellach 88.6 y cant yn is na'r brig ym mis Mawrth 2022; ac 

b) mai ychydig dros 21 wythnos yw’r amser aros cyfartalog am driniaeth.

Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. 

Gwelliant 2 Heledd Fychan (Canol De Cymru)   

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le: 

Yn gresynu at: 

a) polisïau llywodraethau olynol San Steffan sydd wedi agor y drws i breifateiddio yn y GIG, gan gynnwys y fenter cyllid preifat; 

b) methiant Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU a Llywodraeth Lafur bresennol y DU i ddarparu setliad ariannu teg i Gymru sy'n adlewyrchu ei hanghenion iechyd a gofal cymdeithasol; 

c) polisïau llymder Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU, a gyfrannodd yn uniongyrchol at farwolaethau ychwanegol yng Nghymru a chanlyniadau iechyd sy’n gwaethygu; a 

d) y safonau dwbl gan Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU o ran cydymffurfio â rheoliadau COVID a erydodd ymddiriedaeth mewn mesurau iechyd y cyhoedd. 

Yn gresynu ymhellach bod cyfanswm llwybrau cleifion wedi cynyddu tua thraean ers etholiad y Senedd yn 2021. 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i atal mwy o farwolaethau diangen drwy: 

a) datgan argyfwng iechyd; a 

b) gweithredu cynllun Plaid Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2025, i fynd i'r afael â rhestrau aros.  

</AI10>

<AI11>

10    Cyfnod pleidleisio

 

</AI11>

<AI12>

11    Dadl Fer

(30 munud)

NDM8966 Mark Isherwood (Gogledd Cymru) 

Sicrhau gofal hosbis yng Nghymru ar gyfer y dyfodol 

 

</AI12>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 30 Medi 2025

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>